Mojisola Olateju
Introduction and Background
Hello, I’m Mojisola Olateju. I moved to Swansea from Nigeria in 2009 with my family. Driven by a desire to make a positive impact, I’ve dedicated many years to working in healthcare and related fields. I’m also an active volunteer for organisations such as ACC, SCVS, and RCC. Swansea has become more than just a place of residence for me; it’s a community where I’ve been able to connect with others and make meaningful contributions.
Challenges Encountered
Overall, living in Swansea has been a positive experience. However, as a member of a minority ethnic community, my family and I have faced challenges. There have been some instances of racism, such as derogatory remarks in my previous workplace and racial stereotyping at a post office. My children have also encountered discrimination. Despite these challenges, the majority of people in Swansea are welcoming, friendly, and inclusive.
Achievements and Contributions
One of my notable contributions is my involvement in the SCVS Better Welcome Swansea project, where I volunteer to support asylum seekers and refugees. This initiative focuses on reducing isolation, enhancing well-being, and fostering integration by facilitating access to essential services, social activities, and educational opportunities.
Additionally, I’ve participated in the Unified Flavours project, part of the SCVS outreach program. As a member of the Chai and Chat women’s group, I was involved in cooking activities and earned certifications in food hygiene and nutrition. Our successful grant application allowed us to cater for various events, and we were honoured at the National Waterfront Museum. I suggested the name “Unified Flavours” to reflect our diverse backgrounds coming together to share our cultures and dishes with the community.
During the pandemic, I chose to volunteer for ACC, supporting the food bank delivery and participating in fitness activities. This allowed me to connect with community members and contribute during challenging times. My own experiences have also led me to advocate for the importance of exercise. Since October 2022, I’ve seen over a hundred people register for our fitness activities, including yoga, gym sessions, Zumba, and table tennis, with an average of 60 attendees each month. The positive feedback and transformation stories have been encouraging.
Messages for the Community
Creating inclusive communities involves embracing adaptability, cultivating tolerance, and practising consideration. Being open to new perspectives fosters understanding and shifts biases, leading to a richer, more dynamic environment. Tolerance goes beyond enduring differences to actively valuing them, ensuring everyone feels respected and included. Practising small acts of kindness and empathy helps build trust and positive relationships. By integrating these principles, individuals and communities can celebrate diversity and foster a sense of belonging. Ultimately, these efforts pave the way for a future where everyone feels valued and respected, contributing to stronger, more cohesive societies.
Advice for Young People
To help young people succeed, it’s important to maintain focus on their goals, despite challenges. Persistence enables them to overcome obstacles and achieve their aspirations. Equally crucial is being mindful of their associations; surrounding themselves with positive influences and supportive individuals can significantly impact their growth and success. Additionally, practising respect while asserting oneself is key. Young people should treat others with respect but also stand up for their own rights and beliefs with dignity. Balancing advocacy with respect helps maintain integrity and fosters positive interactions. Together, these practices support personal development and overall success.
Cyflwyniad a Chefndir
Helo, Mojisola Olateju ydw i. Symudais i Abertawe o Nigeria gyda fy nheulu yn 2009. Wedi fy ysgogi gan awydd i gael effaith gadarnhaol, rwyf wedi ymroi blynyddoedd lawer i weithio ym maes gofal iechyd a meysydd cysylltiedig. Rwyf hefyd yn wirfoddolwr gweithgar ar gyfer sefydliadau fel y Ganolfan Gymunedol Affricanaidd (ACC), Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe (SCVS), a Race Council Cymru (RCC). Mae Abertawe wedi dod yn fwy na dim ond man preswylio i mi; mae’n gymuned lle rydw i wedi gallu cysylltu ag eraill a gwneud cyfraniadau ystyrlon.
Heriau a Wynebir fel Lleiafrif yn Abertawe
Ar y cyfan, mae byw yn Abertawe wedi bod yn brofiad cadarnhaol. Fodd bynnag, fel aelod o gymuned lleiafrifoedd ethnig, mae fy nheulu a minnau wedi wynebu heriau. Bu rhai achosion o hiliaeth, megis sylwadau difrïol yn fy ngweithle blaenorol a stereoteipio hiliol mewn swyddfa bost. Mae fy mhlant hefyd wedi wynebu gwahaniaethu. Er gwaethaf yr heriau hyn, mae’r mwyafrif o’r bobl yn Abertawe yn groesawgar, yn gyfeillgar ac yn gynhwysol.
Llwyddiannau a Chyfraniadau i Abertawe
Un o fy nghyfraniadau nodedig yw fy rhan ym mhrosiect Croeso Gwell Abertawe SCVS, lle rwy’n gwirfoddoli i gefnogi ceiswyr lloches a ffoaduriaid. Mae’r fenter hon yn canolbwyntio ar leihau unigedd, gwella lles, a meithrin integreiddio trwy hwyluso mynediad at wasanaethau hanfodol, gweithgareddau cymdeithasol a chyfleoedd addysgol.
Yn ogystal, rwyf wedi cymryd rhan ym mhrosiect Unified Flavours, rhan o raglen allgymorth SCVS. Fel aelod o grŵp menywod Chai & Chat, roeddwn yn cymryd rhan mewn gweithgareddau coginio ac yn ennill ardystiadau mewn hylendid bwyd a maeth. Roedd ein cais llwyddiannus am grant yn ein galluogi i ddarparu ar gyfer digwyddiadau amrywiol, a chawsom ein hanrhydeddu yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Awgrymais yr enw “Unified Flavours” i adlewyrchu ein cefndiroedd amrywiol yn dod at ei gilydd i rannu ein diwylliannau a’n seigiau gyda’r gymuned.
Yn ystod y pandemig, dewisais wirfoddoli i ACC, gan gefnogi dosbarthu’r banc bwyd a chymryd rhan mewn gweithgareddau ffitrwydd. Roedd hyn yn fy ngalluogi i gysylltu ag aelodau’r gymuned a chyfrannu yn ystod cyfnod heriol. Mae fy mhrofiadau fy hun hefyd wedi fy arwain i eirioli dros bwysigrwydd ymarfer corff. Ers mis Hydref 2022, rwyf wedi gweld dros gant o bobl yn cofrestru ar gyfer ein gweithgareddau ffitrwydd, gan gynnwys ioga, sesiynau campfa, Zumba, a thenis bwrdd, gyda chyfartaledd o 60 yn mynychu bob mis. Mae’r adborth cadarnhaol a’r straeon am welliant wedi bod yn galonogol.
Negeseuon i'r Gymuned ar Newid Agweddau Tuag at Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae creu cymunedau cynhwysol yn golygu cofleidio addasrwydd, meithrin goddefgarwch, ac ymarfer ystyriaeth. Mae bod yn agored i safbwyntiau newydd yn meithrin dealltwriaeth ac yn newid tueddiadau, gan arwain at amgylchedd cyfoethocach a mwy deinamig. Mae goddefgarwch yn mynd y tu hwnt i dderbyn gwahaniaethau i’w gwerthfawrogi, gan sicrhau bod pawb yn teimlo eu bod yn cael eu parchu a’u cynnwys. Mae ymarfer gweithredoedd bach o garedigrwydd ac empathi yn helpu i feithrin ymddiriedaeth a pherthnasoedd cadarnhaol. Trwy integreiddio’r egwyddorion hyn, gall unigolion a chymunedau ddathlu amrywiaeth a meithrin ymdeimlad o berthyn. Yn y pen draw, mae’r ymdrechion hyn yn paratoi’r ffordd ar gyfer dyfodol lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u parchu, gan gyfrannu at gymdeithasau cryfach, mwy cydlynol.
Cyngor i Bobl Ifanc
Er mwyn helpu pobl ifanc i lwyddo, mae’n bwysig parhau i ganolbwyntio ar eu nodau, er gwaethaf heriau. Mae dyfalbarhad yn eu galluogi i oresgyn rhwystrau a chyflawni eu dyheadau. Yr un mor hanfodol yw bod yn ymwybodol o’u cysylltiadau. Gall amgylchynu eu hunain gyda dylanwadau cadarnhaol ac unigolion cefnogol effeithio’n sylweddol ar eu twf a’u llwyddiant. Yn ogystal, mae ymarfer parch wrth arddel eich hun yn allweddol. Dylai pobl ifanc drin eraill â pharch ond dylent hefyd sefyll dros eu hawliau a’u credoau eu hunain ag urddas. Mae cydbwyso eiriolaeth â pharch yn helpu i gynnal uniondeb ac yn meithrin rhyngweithio cadarnhaol. Gyda’i gilydd, mae’r arferion hyn yn cefnogi datblygiad personol a llwyddiant cyffredinol.