Kemba Hadaway Morgan

Introduction and Background
My name is Kemba Hadaway Morgan, and my country of birth is Trinidad and Tobago. I grew up in the vibrant Caribbean culture before moving to the UK at 29, following my marriage to an Englishman. My husband has deep roots in Swansea, which is why we relocated there after spending a year in London. Moving closer to family, particularly my mother-in-law, was important to us.
Challenges Encountered
Upon arriving in Swansea, one of my biggest challenges was the scarcity of other Black individuals. I vividly recall an encounter in Tesco where I met another Black person for the first time in Swansea. We both exchanged surprised glances and laughed at the rarity of the moment. As a Trinidadian, finding familiar food and community connections was also a struggle. Thankfully, I discovered St. Helens Road, which helped me find some Caribbean food substitutes, though trips to Brixton remained necessary for a proper stock.
Cultural differences also posed challenges. For instance, my Caribbean habit of being more physically expressive when speaking clashed with the more reserved British norms. I had to learn to adjust my behaviour, such as keeping my hands in my pockets to avoid making others uncomfortable.
Professionally, as a qualified social worker, I faced additional hurdles. My accent often led people to question my background, so I adapted my speech to be better understood. Navigating these personal and professional adjustments required significant self-regulation. A significant achievement came during my time with Swansea Council. As an equalities officer for my union, I saw the disproportionate impact of COVID-19 on Black workers and advocated for their needs. I pushed for a COVID-19 risk assessment tailored for Black employees, which Swansea Council implemented. This proactive approach led Swansea to become the first local authority in Wales to have such an assessment, earning recognition from the Welsh government and a personal award for leadership.
Achievements and Contributions
My involvement with the local community extends beyond my work with the union. Through various platforms, I have engaged in initiatives related to Black Lives Matter and social care. I completed my first master’s at Swansea University and later pursued a PhD in Cardiff. My research focuses on dementia care within the Afro-Caribbean community, highlighting the need for culturally appropriate care services.
Engagement with the Local Community
Beyond academia, I actively contribute to discussions about diversity and inclusion. (i) Cardiff University Equality and Diversity Board, I am a Trade Union Representative on several Welsh Government committees, my Doctoral research is looking at Dementia in the African Caribbean Population and the role of Social Work. My work includes examining the experiences of migrant workers and advocating for fair treatment and career progression.
Messages for the Community
My message to the community about diversity and inclusion is simple: it begins with individual mindset changes. Embracing empathy and self-love fosters a broader acceptance of others. It’s crucial to look beyond superficial differences and value individuals for their kindness and empathy. Understanding your own culture and recognizing the cultural contributions of others can lead to a more inclusive and harmonious society.
Advice for Young People
For young people, my advice is to embrace and celebrate their cultural heritage while being open to other cultures. Exposure to different cultures, whether through food, language, or traditions, enriches their understanding and helps them navigate and defend their identity with confidence. Encouraging young people to engage in activism and use their digital skills can empower them to drive social change.
Future Projects
In conclusion, my work continues to span academic, political, and social spheres. From presenting on dementia care to participating in policy discussions and addressing systemic issues in social care, I strive to make a meaningful impact. My hope is that future generations will live in a world where discrimination and racism are relics of the past, and where empathy and mutual respect are the norm.
Cyflwyniad a Chefndir
Fy enw i yw Kemba Hadaway Morgan, a gwlad fy ngeni yw Trinidad a Tobago. Cefais fy magu yn niwylliant bywiog y Caribî cyn symud i’r DU yn 29, ar ôl priodi dyn o Loegr. Mae gan fy ngŵr wreiddiau dwfn yn Abertawe, a dyna pam symudon ni yno ar ôl treulio blwyddyn yn Llundain. Roedd symud yn nes at deulu, yn enwedig fy mam-yng-nghyfraith, yn bwysig i ni.
Heriau a Wynebir fel Lleiafrif yn Abertawe
Ar ôl cyrraedd Abertawe, un o fy heriau mwyaf oedd prinder unigolion Du eraill. Rwy’n cofio’n fyw am gyfarfod yn Tesco lle cyfarfûm â pherson Du arall am y tro cyntaf yn Abertawe. Cyfnewidiodd y ddau ohonom olwg synedig a chwerthin ar brinder y foment. Fel person Trinidadaidd, roedd dod o hyd i fwyd cyfarwydd a chysylltiadau cymunedol hefyd yn anodd. Diolch byth, roedd darganfod St. Helens Road wedi fy helpu i ddod o hyd i rai amnewidion bwyd Caribïaidd, er bod teithiau i Brixton yn dal yn angenrheidiol ar gyfer stoc iawn.
Roedd gwahaniaethau diwylliannol hefyd yn peri heriau. Er enghraifft, roedd fy arfer Caribïaidd o fod yn fwy mynegiannol yn gorfforol wrth siarad yn gwrthdaro â’r normau Prydeinig mwy tawedog. Roedd yn rhaid i mi ddysgu addasu fy ymddygiad, fel cadw fy nwylo yn fy mhocedi i osgoi gwneud eraill yn anghyfforddus.
Yn broffesiynol, fel gweithiwr cymdeithasol cymwys, roeddwn yn wynebu rhwystrau ychwanegol. Roedd fy acen yn aml yn arwain pobl i gwestiynu fy nghefndir, felly fe addasais fy araith i gael ei ddeall yn well. Roedd angen hunanreoleiddio sylweddol er mwyn dod o hyd i’m ffordd drwy’r addasiadau personol a phroffesiynol hyn. Daeth cyflawniad sylweddol yn ystod fy amser gyda Chyngor Abertawe. Fel swyddog cydraddoldebau ar gyfer fy undeb, gwelais effaith anghymesur COVID-19 ar weithwyr Du ac eiriolais dros eu hanghenion. Gwthiais am asesiad risg COVID-19 wedi’i deilwra ar gyfer gweithwyr Du, a weithredwyd gan Gyngor Abertawe. Arweiniodd y dull rhagweithiol hwn i Abertawe ddod yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i gael asesiad o’r fath, gan ennill cydnabyddiaeth gan lywodraeth Cymru a gwobr bersonol am arweinyddiaeth.
Llwyddiannau a Chyfraniadau i Gymuned Abertawe
Mae fy nghysylltiad â’r gymuned leol yn ymestyn ytu hwnt i’m gwaith gyda’r undeb. Trwy lwyfannau amrywiol, rwyf wedi cymryd rhan mewn mentrau sy’n ymwneud â Black Lives Matter a gofal cymdeithasol. Cwblheais fy ngradd Meistr cyntaf ym Mhrifysgol Abertawe ac yn ddiweddarach dilynais PhD yng Nghaerdydd. Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar ofal dementia o fewn y gymuned Affro-Caribïaidd, gan amlygu’r angen am wasanaethau gofal sy’n sensitif i ddiwylliant.
Ymgysylltu â'r Gymuned Leol
Y tu hwnt i’r byd academaidd, rwy’n cyfrannu’n frwd at drafodaethau ynghylch amrywiaeth a chynhwysiant ar Fwrdd Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Prifysgol Caerdydd, ac rwy’n Gynrychiolydd Undeb Llafur ar sawl un o bwyllgorau Llywodraeth Cymru. Mae fy ymchwil Doethurol yn edrych ar Ddementia yn y Boblogaeth Affricanaidd Caribïaidd a rôl Gwaith Cymdeithasol. Mae fy ngwaith yn cynnwys archwilio profiadau gweithwyr mudol ac eirioli dros driniaeth deg a dilyniant gyrfa.
Negeseuon i'r Gymuned ar Newid Agweddau Tuag at Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae fy neges i’r gymuned am amrywiaeth a chynhwysiant yn syml: mae’n dechrau gyda newidiadau meddylfryd unigol. Mae cofleidio empathi a hunan-gariad yn meithrin derbyniad ehangach o eraill. Mae’n hanfodol edrych y tu hwnt i wahaniaethau arwynebol a gwerthfawrogi unigolion am eu caredigrwydd a’u empathi. Gall deall eich diwylliant eich hun a chydnabod cyfraniadau diwylliannol eraill arwain at gymdeithas fwy cynhwysol a chytûn.
Cyngor i Bobl Ifanc
I bobl ifanc, fy nghyngor i yw cofleidio a dathlu eu treftadaeth ddiwylliannol wrth fod yn agored i ddiwylliannau eraill. Mae bod yn agored i wahanol ddiwylliannau, boed hynny trwy fwyd, iaith, neu draddodiadau, yn cyfoethogi eu dealltwriaeth ac yn eu helpu i lywio ac amddiffyn eu hunaniaeth yn hyderus. Gall annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn actifiaeth a defnyddio eu sgiliau digidol eu grymuso i ysgogi newid cymdeithasol.
Prosiectau'r Dyfodol
I gloi, mae fy ngwaith yn parhau i rychwantu meysydd academaidd, gwleidyddol a chymdeithasol. O gyflwyno ar ofal dementia i gymryd rhan mewn trafodaethau polisi a mynd i’r afael â materion systemig mewn gofal cymdeithasol, rwy’n ymdrechu i gael effaith ystyrlon. Fy ngobaith yw y bydd cenedlaethau’r dyfodol yn byw mewn byd lle mae gwahaniaethu a hiliaeth yn greiriau o’r gorffennol, a lle mae empathi a pharch at ei gilydd yn norm.