Chinyere Chukwudi Okeh

Chinyere Chukwudi-Okeh

Our Swansea , Our Stories
Chinyere Chukwudi Okeh

Introduction and Background

My name is Chinyere Chukwudi-Okeh, a Nigerian writer, wife, and mother of three. My career journey has been diverse, spanning the publishing sector with Farafina, Daskachifu Limited, and Parisia Publishers, as well as the financial and oil and gas industries. My move to Swansea University to study creative writing marked a pivotal shift in my career. Here in Swansea, I began as a volunteer with the African Community Centre, eventually becoming an admin and now serving as a project manager. This role has deepened my connection to the community. Additionally, I work with Honno Publishers and volunteer with the Book Council of Wales, contributing to projects like an anthology highlighting the experiences of Black and minority ethnic women in Wales.

Challenges Encountered

Settling in Swansea presented several challenges. Finding suitable housing was difficult despite financial stability, and we often faced discrimination and scrutiny. Balancing my passion for writing with the need for financial stability was another challenge, as writing does not always provide consistent income. This struggle is common in the minority community, where one often has to juggle a day job with their true interests. Additionally, British certifications were prioritised over my Nigerian qualifications, limiting job opportunities and affecting my career and family’s adjustment. Cultural adaptation for my children, including navigating a new educational system and adjusting to changes in our diet, also posed difficulties.

Achievements and Contributions

In Swansea, I have achieved notable successes. At Swansea University, I advocated for the inclusion of African literature in the curriculum, leading to the incorporation of works by Nigerian authors. My role at the African Community Centre has been impactful, involving collaboration with diverse cultural groups and managing projects that promote community engagement. In the creative sphere, I contributed to the Imagine Voices, Diverse Voices project and published a story titled “To Buy an Expensive Dream” with Honno  Publishers, reflecting the migrant experience. These efforts highlight my commitment to broadening cultural representation and enriching the community.

Engagement with the Local Community

As a project manager with the HarMINDise projects, I engage with various multicultural groups, enhancing my cultural competency and fostering collaboration. My work ensures diverse representation and involvement in our activities, enriching my understanding of different communities.

Messages for the Community

To the majority community: Embracing diversity and celebrating different cultures enriches societal understanding and unity. It’s important to value all contributions and foster an inclusive environment.

To fellow ethnic minorities: Unity and self-respect are crucial. Support each other and celebrate your identities to strengthen your collective impact and address racial inequality.

Advice for Young People

Embrace your unique identity and talents. While adapting to new environments is important, stay true to what makes you distinctive. Develop your skills, seek support when needed, and be confident in your heritage. Your individuality is valuable and can set you apart.

Future Projects

I am currently working on a novel titled Ghosts of Unfortunate Stars and a children’s book, The Missing Tooth Fairies of Wales, reflecting my experiences and creativity.

Cyflwyniad a Chefndir

Fy enw i yw Chinyere Chukwudi-Okeh, awdur, gwraig, a mam i dri o Nigeria. Mae fy siwrnai gyrfa wedi bod yn amrywiol, gan rychwantu’r sector cyhoeddi gyda Farafina, Daskachifu Limited, a Parisia Publishers, yn ogystal â’r diwydiannau ariannol ac olew a nwy. Roedd symud i Brifysgol Abertawe i astudio ysgrifennu creadigol yn newid hollbwysig yn fy ngyrfa. Yma yn Abertawe, dechreuais fel gwirfoddolwr gyda’r Ganolfan Gymunedol Affricanaidd, gan ddod yn weinyddwr yn y pen draw a bellach yn gwasanaethu fel rheolwr prosiect. Mae’r rôl hon wedi dyfnhau fy nghysylltiad â’r gymuned. Yn ogystal, rwy’n gweithio gyda’r cyhoeddwr Honno ac yn gwirfoddoli gyda Chyngor Llyfrau Cymru, gan gyfrannu at brosiectau fel blodeugerdd sy’n amlygu profiadau menywod Du a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru.

Heriau a Wynebir fel Lleiafrif yn Abertawe

Roedd sawl her yn gysylltiedig â setlo yn Abertawe. Roedd dod o hyd i dai addas yn anodd er gwaethaf sefydlogrwydd ariannol, ac roeddem yn aml yn wynebu gwahaniaethu a chraffu. Roedd cydbwyso fy angerdd am ysgrifennu â’r angen am sefydlogrwydd ariannol yn her arall, gan nad yw ysgrifennu bob amser yn darparu incwm cyson. Mae’r frwydr hon yn gyffredin yn y gymuned leiafrifol, lle mae rhywun yn aml yn gorfod jyglo swydd bob dydd gyda’u gwir ddiddordebau. Yn ogystal, cafodd ardystiadau Prydeinig eu blaenoriaethu dros fy nghymwysterau o Nigeria, gan gyfyngu ar gyfleoedd gwaith ac effeithio ar addasiad fy ngyrfa a fy nheulu. Roedd addasu diwylliannol ar gyfer fy mhlant, gan gynnwys dod o hyd i’w ffordd drwy system addysg newydd ac addasu i newidiadau yn ein diet, hefyd yn peri anawsterau.

Llwyddiannau a Chyfraniadau i Gymuned Abertawe

Yn Abertawe, rwyf wedi cael llwyddiannau nodedig. Ym Mhrifysgol Abertawe, bûm yn dadlau dros gynnwys llenyddiaeth Affricanaidd yn y cwricwlwm, gan arwain at ymgorffori gweithiau gan awduron o Nigeria. Mae fy rôl yn y Ganolfan Gymunedol Affricanaidd wedi bod yn un dylanwadol, gan gynnwys cydweithredu â grwpiau diwylliannol amrywiol a rheoli prosiectau sy’n hyrwyddo ymgysylltiad cymunedol. Yn y maes creadigol, cyfrannais at y prosiect Imagine Voices, Diverse Voices a chyhoeddais stori o’r enw “To Buy an Expensive Dream” gyda’r cyhoeddwr Honno, yn adlewyrchu’r profiad mudol. Mae’r ymdrechion hyn yn amlygu fy ymrwymiad i ehangu cynrychiolaeth ddiwylliannol a chyfoethogi’r gymuned.

Ymgysylltu â'r Gymuned Leol

Fel rheolwr prosiect gyda phrosiectau HarMINDise, rwy’n ymgysylltu ag amrywiol grwpiau amlddiwylliannol, gan wella fy nghymhwysedd diwylliannol a meithrin cydweithrediad. Mae fy ngwaith yn sicrhau cynrychiolaeth a chyfranogiad amrywiol yn ein gweithgareddau, gan gyfoethogi fy nealltwriaeth o wahanol gymunedau.

Negeseuon i'r Gymuned ar Newid Agweddau Tuag at Amrywiaeth a Chynhwysiant

I’r gymuned fwyafrifol: Mae croesawu amrywiaeth a dathlu gwahanol ddiwylliannau yn cyfoethogi dealltwriaeth ac undod cymdeithasol. Mae’n bwysig gwerthfawrogi pob cyfraniad a meithrin amgylchedd cynhwysol.

I gyd-leiafrifoedd ethnig: Mae undod a hunan-barch yn hollbwysig. Cefnogwch eich gilydd a dathlwch eich hunaniaeth i gryfhau eich effaith gyfunol a mynd i’r afael ag anghydraddoldeb hiliol.

Cyngor i Bobl Ifanc

Cofleidiwch eich hunaniaeth a’ch doniau unigryw. Er bod addasu i amgylcheddau newydd yn bwysig, arhoswch yn driw i’r hyn sy’n eich gwneud chi’n nodedig. Datblygwch eich sgiliau, ceisiwch gefnogaeth pan fo angen, a byddwch yn hyderus yn eich treftadaeth. Mae eich unigoliaeth yn werthfawr a gall eich gosod ar wahân.

Prosiectau'r Dyfodol

Ar hyn o bryd rwy’n gweithio ar nofel o’r enw Ghosts of Unfortunate Stars a llyfr i blant, The Missing Tooth Fairies of Wales, sy’n adlewyrchu fy mhrofiadau a’m creadigrwydd.