Rhaglennydd Datblygol Mis Hanes Pobl Dduon
Fel rhan o ddathliadau Mis Hanes Pobl Dduon 2018, bydd Mis Hanes Pobl Dduon a Chanolfan Mileniwm Cymru yn cydweithio am y tro cyntaf, a hynny yn ffresh, gofod cabaret y Ganolfan. Hwn fydd yn agor tymor Perfformiadau i’r Chwilfrydig y Ganolfan tymor yr Hydref yma.
Fel rhan o gynllun Cynhyrchwyr Datblygol y Ganolfan, rydym yn chwilio am unigolyn o’r gymuned Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig sy’n frwd dros y celfyddydau perfformio, cerddoriaeth, theatr, a chomedi. Bydd y gwaith yn golygu rhaglennu tair noson yn ffresh, a gweithio gyda’n timau cyfathrebu i hyrwyddo’r digwyddiadau hyn, gan gynnwys drwy eich rhwydweithiau eich hun (y cyfryngau cymdeithasol, teulu, cydweithwyr etc.) Bydd y Rhaglennydd Datblygol wedi’i leoli yn y Ganolfan. Bydd y rôl yn addas i unigolyn ar ddechrau’i yrfa (nid oes yn rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus fod â phrofiad blaenorol), ac fel rhan o’r cyfle hwn bydd y tîm cynhyrchu yn y Ganolfan yn eich mentora.
Dyddiadau’r perfformiadau yw 6, 13 a 20 Hydref.
Dyma’r themâu:
6ed – Pobl Hŷn – Cenhedlaeth Windrush
13eg – Digwyddiad diwylliannol Affricanaidd am hanes pobl dduon, yn cynnwys adrodd straeon a dawns
20fed – Digwyddiad ieuenctid yn dilyn digwyddiad yn ystod y dydd yn y Glanfa.
Cyngor Hil Cymru
Sefydlwyd Cyngor Hil Cymru gan sefydliadau lleiafrifoedd ethnig ledled Cymru yn 2010 er mwyn hyrwyddo cyd-dynnu hiliol drwy gydweithio gyda chymunedau lleiafrifoedd ethnig ar lawr gwlad drwy Gymru. Mae’r Cyngor yn hyrwyddo integreiddio, cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb hil ledled Cymru. Mae’n elusen gofrestredig ac yn gwmni cyfyngedig drwy warant. Y Cyngor
sy’n rheoli Rhwydwaith Hanes Pobl Dduon Cymru a Hanes Pobl Dduon Cymru 365 yw’r rhaglen 24/7.
Mis Hanes Pobl Dduon
Y thema yn 2018 yw Eiconau Cymru Ddu.
Mae Mis Hanes Pobl Dduon yng Nghymru yn cydnabod y cyfraniadau y mae pobl dduon wedi’i wneud i hanes a diwylliant lleol, cenedlaethol a byd-eang. Mae’n gwneud hyn drwy gynnal rhaglen o ddigwyddiadau bob mis Hydref sy’n addysgu ac yn dathlu. Mae’n annog pawb, waeth beth yw eu hethnigrwydd neu liw, i gymryd rhan mewn digwyddiadau, dysgu am yr hanes byd-eang sy’n berthnasol inni i gyd, ac yn dathlu amrywiaeth a dealltwriaeth ddiwylliannol. Caerdydd, prif-ddinas Cymru, oedd un o ddinasoedd aml-ddiwylliannol cyntaf Prydain, lle mae pobl o bob cenedl wedi byw ochr yn ochr am ddegawdau. Cyngor Hil Cymru sy’n cynnal Mis Hanes Pobl Dduon Cymru. Y Cyngor yw’r corff ymbarél yng Nghymru sy’n gweithio i herio rhagfarn, gwahaniaethu ar sail hil, aflonyddu, cam-drin a thrais. Mae’r Cyngor yn hyrwyddo diwylliant, treftadaeth a gweithgareddau diwylliannol i gymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig drwy Gymru.
Canolfan Mileniwm Cymru
Canolfan Mileniwm Cymru yw canolbwynt y celfyddydau perfformio yn y wlad, ac mae’n sefyll yng nghanol Bae Caerdydd. Mae’r Ganolfan yn un o brif atyniadau diwylliannol y Deyrnas Unedig, ac yn cynnal rhaglen helaeth o adloniant o’r radd flaenaf, yn rhoi llwyfan i greadigrwydd a thalent o Gymru, yn creu partneriaethau â chwmnïau artistig rhyngwladol, ac yn cynnig cyfleoedd dysgu ac ymgysylltu cymunedol gyda’r nod o roi mynediad ehangach i bobl i gelfyddyd a diwylliant. Mae’r tirnod Cymreig hwn wedi croesawu dros 16.5 miliwn o ymwelwyr ers i’r Ganolfan agor yn 2004.
Y gofynion
- Gweithredu fel Rhaglennydd digwyddiadau cabaret yn ffresh yn ystod Mis Hanes Pobl Dduon fel rhan o dymor Perfformiadau i’r Chwilfrydig, a chwblhau’r tasgau isod, ond heb fod yn gyfyngedig i –
- Ymchwilio i berfformwyr posib i ddigwyddiadau cabaret yn ffresh yn ystod Mis Hanes Pobl Dduon, a gyda chymorth tîm rhaglennu Canolfan Mileniwm Cymru, trafod y ffioedd a’r trefniadau gyda’r perfformwyr.
- Gyda chymorth tîm rhaglennu Canolfan Mileniwm Cymru, cwblhau unrhyw waith contractio ar gyfer y digwyddiadau
- Gyda chymorth tîm rhaglennu Canolfan Mileniwm Cymru, sicrhau bod y Ganolfan yn glynu wrth safonau’r diwydiant, ac yn mynd y tu hwnt i hynny, gan gynnwys cytundebau Equity ac ati.
- Gyda chymorth tîm rhaglennu Canolfan Mileniwm Cymru, rheoli’r gyllideb ar gyfer y digwyddiadau, a sicrhau bod y cyfan o fewn y gyllideb. Ar ddiwedd y prosiect, cysoni’r gyllideb gyda Chanolfan Mileniwm Cymru.
- Gyda chymorth tîm rhaglennu Canolfan Mileniwm Cymru a Mis Hanes Pobl Dduon, helpu i farchnata, rhoi cyhoeddusrwydd yn y wasg a hyrwyddo’r prosiect a sicrhau bod cymaint o docynnau â phosibl yn cael eu gwerthu a chymaint o incwm â phosibl yn cael ei greu.
- Gyda chymorth tîm rhaglennu Canolfan Mileniwm Cymru a Phwyllgor Rheoli Mis Hanes Pobl Dduon Cyngor Hil Cymru, sicrhau bod holl elfennau’r prosiect yn cael eu cyflawni o ran yr elfennau hygyrchedd ac elfennau cymunedol.
- Gyda chymorth tîm rhaglennu Canolfan Mileniwm Cymru, sicrhau bod holl gamau iechyd a diogelwch y prosiect wedi cael eu cymryd.
- Gyda chymorth tîm rhaglennu Canolfan Mileniwm Cymru, trefnu holl elfennau logisteg y prosiect.
Math o Gontract: Llawrydd
Nodwch os gwelwch yn dda mai’r ymgeisydd llwyddiannus ei hun fydd yn gyfrifol am dalu treth ac yswiriant gwladol.
Dyddiadau Gweithio:
Rhaid i chi fod ar gael i weithio am ddeuddydd rhwng 3 a 5 Medi 2018 ac yna’r hyn sy’n gyfwerth â 4 diwrnod o waith rhwng 10 Medi tan y perfformiadau terfynol ar 6, 13 a 20 Hydref.
Mae hon yn rôl hyblyg a gellir trefnu’r oriau yn unol ag anghenion yr ymgeisydd llwyddiannus.
Ffioedd:
Y ffi yw £600 (£100 y diwrnod am 6 diwrnod o waith)
Os oes gennych chi ddiddordeb yn y cyfle hwn, anfonwch eich CV a llythyr i gyd-fynd (gellir ysgrifennu hwn neu ei ffilmio a’i anfon atom) yn ateb y cwestiynau hyn –
Pam fod gennych chi ddiddordeb yn y swydd?
Beth yw’ch uchelgeisiau mewn bywyd?
Pwy yw’ch hoff artist (mewn unrhyw ffurf gelfyddydol) a pham?
Pam eich bod chi’n addas i’r gwaith hwn?
Anfonwch rhain at [email protected] erbyn 12pm ar 24 Awst 2018. Bydd y cyfweliadau’n cael eu cynnal yr wythnos ganlynol ar ddydd Gwener 31 Awst 2018, yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.