Teitl y Prosiect: Atgofion y Grand: Gorffennol | Presennol | Dyfodol
Rôl: Cynorthwyydd Prosiect
Statws: Gwirfoddolwr
Costau: £240
Disgrifiad o’r Prosiect:
Mae gan Race Council Cymru gyfle newydd cyffrous i gynorthwyydd prosiect gymryd rhan yn y prosiect Atgofion y Grand: Gorffennol | Presennol | Dyfodol.
Nod prosiect Atgofion y Grand: Gorffennol | Presennol | Dyfodol, a noddir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, yw canfod a chofnodi atgofion pobl am yr hyn mae adeilad y Grand yn ei olygu iddyn nhw, p’un a ydynt wedi byw yn Abertawe, wedi ymfudo i’r ardal, neu wedi gweithio yn yr adeilad. Mae’r prosiect yn adrodd eu straeon gan ddefnyddio ffotograffau a chyfweliadau sy’n dangos sut mae’r adeilad wedi esblygu ar hyd y blynyddoedd i gyrraedd ei ffurf bresennol a sut mae wedi cipio calonnau cymaint o bobl.
Canlyniad terfynol y prosiect fydd arddangosfa o’r enw Atgofion y Grand: Gorffennol | Presennol | Dyfodol, i’w chynnal yn y Grand. Rydym yn chwilio am gynorthwyydd prosiect a fydd yn gweithio’n agos gyda rheolwr y prosiect i gynnal yr arddangosfa.
Mae’r rôl wirfoddol hon yn gyfle i chi ddatblygu portffolio o waith proffesiynol a chymryd rhan mewn prosiect byw. Bydd y prosiect hwn yn eich datblygu’n broffesiynol yn ogystal ag yn greadigol. Bydd yn gyfle hefyd ichi ddatblygu eich sgiliau rheoli prosiect a threfnu amser.
Cyfrifoldebau:
- Gweithio’n agos gyda rheolwr y prosiect i gyflawni amcanion y prosiect
- Trefnu amserlen y sesiynau ffotograffiaeth
- Trawsgrifio a golygu cyfweliadau
- Bod yn bresennol yn y sesiynau ffotograffiaeth
- Bod yn bwynt cyswllt i’r cyfranogwyr ac i fudiadau eraill
- Cyfrifol am ddyletswyddau gweinyddol
- Cymryd rhan mewn cyfarfodydd a digwyddiadau sy’n ymwneud â’r prosiect
- Rheoli’r cyfryngau cymdeithasol
Sgiliau:
- Ysgogiad a chymhelliant i ddysgu
- Sgiliau rhyngbersonol a chydweithio rhagorol
- Dibynadwy, ac yn meddu ar sgiliau cyfathrebu da
- Sgiliau trefniadol a rheoli amser rhagorol
- Gallu gweithio i derfynau amser tynn
Os oes gennych ddiddordeb:
Anfonwch eich portffolio a CV mewn ebost at [email protected]
Byddwn wedyn yn eich gwahodd i gyfweliad lle gallwch drafod eich gwaith mewn mwy o fanylder a gallwn amlinellu’r rôl a’r cyfleoedd.