Jobs and Opportunities

Find our jobs and other opportunities

Ffotograffydd

Teitl y Prosiect: Atgofion y Grand: Gorffennol | Presennol | Dyfodol

Rôl: Ffotograffydd Dogfennol a/neu Gymdeithasol

Cytundeb Gwasanaethau Llawrydd

Ffi: £1,700

Disgrifiad o’r Prosiect:

Mae gan Race Council Cymru gyfle newydd cyffrous i brif ffotograffydd gymryd rhan yn y prosiect Atgofion y Grand: Gorffennol | Presennol | Dyfodol.

Nod prosiect Atgofion y Grand: Gorffennol | Presennol | Dyfodol, a noddir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, yw canfod a chofnodi atgofion pobl am yr hyn mae adeilad y Grand yn ei olygu iddyn nhw, p’un a ydyn nhw wedi byw yn Abertawe, wedi ymfudo i’r ardal, neu wedi gweithio yn yr adeilad. Mae’r prosiect yn adrodd eu straeon gan ddefnyddio ffotograffau a chyfweliadau sy’n dangos sut mae’r adeilad wedi esblygu ar hyd y blynyddoedd i gyrraedd ei ffurf bresennol a sut mae wedi cipio calonnau cymaint o bobl.

Canlyniad terfynol y prosiect fydd arddangosfa o’r enw Atgofion y Grand: Gorffennol | Presennol | Dyfodol, i’w chynnal yn y Grand. Rydym yn chwilio am ffotograffydd a fydd yn gweithio’n agos gyda rheolwr y prosiect i dynnu lluniau cyfranogwyr y prosiect yn adeilad y Grand.

Mae’r swydd hon yn gyfle i chi ddatblygu portffolio o waith proffesiynol a chymryd rhan mewn prosiect byw. Bydd cyfle ichi arddangos eich gwaith yn un o sefydliadau diwylliannol mwyaf Abertawe. Bydd y prosiect hwn yn eich datblygu’n broffesiynol yn ogystal ag yn greadigol.

Cyfrifoldebau:

  • Gweithio’n agos gyda rheolwr y prosiect i greu a thrafod cysyniad creadigol y prosiect
  • Gweithio yn unol â’r cysyniad creadigol i gael y lluniau iawn ar gyfer yr arddangosfa
  • Cynnal gwaith ymchwil a pharatoi ar gyfer y sesiynau ffotograffiaeth
  • Gweithio dan amrywiol amgylchiadau ac mewn amrywiol leoliadau i gael lluniau o ansawdd dda
  • Rheoli prosesu’r lluniau a datrys problemau technegol
  • Sicrhau ffotograffau o ansawdd dda
  • Paratoi profluniau ffotograffau i’w cymeradwyo
  • Creu ffotograffau terfynol o’r ansawdd, maint a steil gofynnol yn barod ar gyfer yr arddangosfa
  • Cyfrannu at y deunyddiau marchnata
  • Cymryd rhan mewn cyfarfodydd sy’n ymwneud â’r prosiect

Sgiliau:

  • Sylw craff i fanylder
  • Creadigol, gyda’r gallu i greu darluniau dengar
  • Gallu gweithio gyda briffiau creadigol
  • Dibynadwy, ac yn meddu ar sgiliau cyfathrebu da
  • Sgiliau trefniadol a rheoli amser rhagorol
  • Gallu gweithio i derfynau amser tynn

Sgiliau technegol:

Gwybodaeth ddatblygedig am amrywiol feddalwedd golygu ffotograffau fel Photoshop.

Gwybodaeth ddatblygedig am gamerâu digidol a thechnegau goleuo.

Os oes gennych ddiddordeb:

Anfonwch eich portffolio a CV mewn ebost at [email protected]

Byddwn wedyn yn eich gwahodd i gyfweliad lle gallwch drafod eich gwaith mewn mwy o fanylder