Jobs and Opportunities

Find our jobs and other opportunities

Cynorthwyydd Ffotograffiaeth

Teitl y Prosiect: Atgofion y Grand: Gorffennol | Presennol | Dyfodol

Rôl: Cynorthwyydd Ffotograffiaeth

Statws: Gwirfoddolwr

Costau: £240

Disgrifiad o’r Prosiect:

Mae gan Race Council Cymru gyfle newydd cyffrous i gynorthwyydd ffotograffiaeth gymryd rhan yn y prosiect Atgofion y Grand: Gorffennol | Presennol | Dyfodol.

Nod prosiect Atgofion y Grand: Gorffennol | Presennol | Dyfodol, a noddir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, yw canfod a chofnodi atgofion pobl am yr hyn mae adeilad y Grand yn ei olygu iddyn nhw, p’un a ydynt wedi byw yn Abertawe, wedi ymfudo i’r ardal, neu wedi gweithio yn yr adeilad. Mae’r prosiect yn adrodd eu straeon gan ddefnyddio ffotograffau a chyfweliadau sy’n dangos sut mae’r adeilad wedi esblygu ar hyd y blynyddoedd i gyrraedd ei ffurf bresennol a sut mae wedi cipio calonnau cymaint o bobl.

Canlyniad terfynol y prosiect fydd arddangosfa o’r enw Atgofion y Grand: Gorffennol | Presennol | Dyfodol, i’w chynnal yn y Grand. Rydym yn chwilio am gynorthwyydd ffotograffiaeth a fydd yn gweithio’n agos gyda rheolwr y prosiect a’r prif ffotograffydd i dynnu lluniau cyfranogwyr y prosiect yn adeilad y Grand. Mae’r rôl wirfoddol hon yn gyfle i chi ddatblygu portffolio o waith proffesiynol a chymryd rhan mewn prosiect byw.

Cyfrifoldebau:

  • Cynorthwyo’r prif ffotograffydd i gynllunio, trefnu, a chyflawni sesiynau ffotograffiaeth
  • Gweithio’n agos gyda rheolwr y prosiect a’r ffotograffydd i wireddu cysyniad creadigol y prosiect
  • Cynorthwyo gyda chynhyrchu darluniau cyson, o ansawdd dda i derfynau amser tynn
  • Gweithio tuag at nodau ac amcanion penodol
  • Golygu ffotograffau
  • Cynnal gwaith ymchwil a pharatoi ar gyfer y sesiynau ffotograffiaeth
  • Cymryd rhan mewn cyfarfodydd sy’n ymwneud â’r prosiect

Sgiliau:

  • Ysgogiad a chymhelliant i ddysgu
  • Sylw craff i fanylder
  • Gallu gweithio gyda briffiau creadigol
  • Dibynadwy, ac yn meddu ar sgiliau cyfathrebu da
  • Sgiliau trefniadol a rheoli amser rhagorol
  • Gallu gweithio i derfynau amser tynn

Sgiliau technegol:

Gwybodaeth am amrywiol feddalwedd golygu ffotograffau fel Photoshop.

Gwybodaeth am gamerâu digidol a thechnegau goleuo.

Os oes gennych ddiddordeb:

Anfonwch eich portffolio a CV mewn ebost at [email protected]

Byddwn wedyn yn eich gwahodd i gyfweliad lle gallwch drafod eich gwaith mewn mwy o fanylder a gallwn amlinellu’r rôl a’r cyfleoedd.