Jobs and Opportunities

Find our jobs and other opportunities

Rheolwr Marchnata, Datblygu a Chyfathrebu

Teitl swydd: Rheolwr Marchnata, Datblygu a Chyfathrebu Hanes Pobl Dduon Cymru (Black History Cymru 365)

Lleoliad: Swyddfa yn Abertawe, De Cymru – mae’r swydd yn rôl Cymru Gyfan

Ffi’r Contract: £33,150

Dyddiad Cau ar gyfer Ceisiadau: 6yh dydd Gwener 22 Ionawr 2021

Cynhelir cyfweliadau yr wythnos sy’n dechrau 25 Ionawr 2021

Cysylltwch â [email protected] os bydd gennych unrhyw ymholiadau neu i gael mwy o wybodaeth

 

Pwrpas y swydd

Mae’r swydd hon yn galw am Reolwr Marchnata, Datblygu a Chyfathrebu llawn cymhelliant a hunan-ysgogiad a fydd yn gyfrifol am y canlynol:

• Datblygu a chyflawni’r strategaeth farchnata sy’n bodloni amcanion strategol cyffredinol Hanes Pobl Dduon Cymru yn y flwyddyn 2021.

• Cymryd cyfrifoldeb am ddarpariaeth strategol a thactegol ymgyrch Hanes Pobl Dduon Cymru 2021.

• Creu a chyflawni gweithgareddau hyrwyddo a chyfathrebu ar-lein ac yn y byd go iawn.

• Gweithio’n agos gyda’r tîm a bodloni gofynion amrywiol randdeiliaid yn cynnwys noddwyr, partneriaid, arianwyr a’r pwyllgor rheoli.

Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau

Gweithio’n strategol a thactegol i gyflawni ymgyrch Hanes Pobl Dduon Cymru 2021 yn cynnwys:

Datblygu Cynulleidfaoedd
1. Cynyddu’r nifer o gyfranogwyr mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau, gweithgareddau a phrosiectau celfyddydol

2. Ymchwilio i gynulleidfaoedd newydd y gellir eu targedu yn ystod Hanes Pobl Dduon Cymru 2021

Rheoli ymgyrchoedd
1. Datblygu, rheoli, monitro a chynnal nifer o ymgyrchoedd sy’n gysylltiedig â Hanes Pobl Dduon Cymru yn y flwyddyn 2021

2. Gallu ysgrifennu briffiau creadigol a gweithio gydag asiantaethau a gweithwyr llawrydd allanol

3. Gwybodaeth ddatblygedig o Adobe Creative Clou

Hyrwyddo ar-lein ac yn y byd go iawn
1. Cynnal gwefan ac oriel Hanes Pobl Dduon Cymru gan ddefnyddio WordPress

2. Creu cynnwys ar gyfer llwyfannau’r cyfryngau cymdeithasol yn cynnwys Facebook, Twitter ac Instagram

3. Datblygu a dylunio ymgyrchoedd effeithiol y gellir eu rhannu ar-lein ac yn y byd go iawn

4. Hyrwyddo digwyddiadau ar-lein ac yn y byd go iawn

Rheoli partneriaethau

1. Bodloni gofynion amrywiol randdeiliaid, noddwyr a phartneriaid

2. Ymchwilio a datblygu partneriaethau newydd gyda mudiadau sydd â nodau ac amcanion tebyg.

Yn ychwanegol

Sgiliau technegol:

• Dealltwriaeth o WordPress yn cynnwys adeiladu tudalennau newydd gan ddefnyddio WPBakery

• Dealltwriaeth am ddefnyddio Adobe Creative Cloud yn cynnwys Photoshop, InDesign, Illustrator a Premiere Pro

• Gallu gweithio gydag amrywiaeth o lwyfannau fel Mailchimp a Social Pilot

Sgiliau meddal:

• Gallu gweithio’n annibynnol a rheoli nifer o brosiectau ar unwaith

• Gallu gweithio mewn amgylchedd sy’n symud yn gyflym

• Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar ac yn ysgrifenedig

• Gallu meithrin perthynas gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol

Cyfrifoldebau ychwanegol:

• Cymryd rhan mewn cyfarfodydd tîm/staff yn rheolaidd

• Cynrychioli RCC mewn cyfarfodydd a digwyddiadau yn ôl y galw

• Hwyluso cyfarfodydd gyda phartneriaid a noddwyr strategol

• Cymryd rhan mewn hyfforddiant a datblygu yn ôl y galw

• Gweithio’n ddiogel, ac yn unol â chod ymddygiad RCC a’r cytundeb cyfrinachedd

• Gweithio mewn modd parchus gyda staff a gwirfoddolwyr RCC, aelodau o’r gymuned, byrddau a phwyllgorau llywio a rheoli BHW a rhanddeiliaid

• Unrhyw ddyletswyddau eraill y gellid bod galw amdanynt yn y swydd hon

Please download the job description and application form below.