Jobs and Opportunities

Find our jobs and other opportunities

Dylunydd Graffeg

Teitl y Prosiect: Atgofion y Grand: Gorffennol | Presennol | Dyfodol

Rôl: Dylunydd Graffeg

Cytundeb Gwasanaethau Llawrydd 

Ffi: £500

Disgrifiad o’r Prosiect:

Mae gan Race Council Cymru gyfle newydd cyffrous i ddylunydd graffeg greu delwedd brand gweledol ar gyfer prosiect Atgofion y Grand: Gorffennol | Presennol | Dyfodol.

Nod prosiect Atgofion y Grand: Gorffennol | Presennol | Dyfodol, a noddir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, yw canfod a chofnodi atgofion pobl am yr hyn mae adeilad y Grand yn ei olygu iddyn nhw, p’un a ydyn nhw wedi byw yn Abertawe, wedi ymfudo i’r ardal, neu wedi gweithio yn yr adeilad. Mae’r prosiect yn adrodd eu straeon gan ddefnyddio ffotograffau a chyfweliadau sy’n dangos sut mae’r adeilad wedi esblygu ar hyd y blynyddoedd i gyrraedd ei ffurf bresennol a sut mae wedi cipio calonnau cymaint o bobl.

Canlyniad terfynol y prosiect fydd arddangosfa o’r enw Atgofion y Grand: Gorffennol | Presennol | Dyfodol, i’w chynnal yn y Grand. Rydym yn chwilio am ddylunydd graffeg i weithio’n agos gyda rheolwr y prosiect i ddylunio delwedd weledol ar gyfer yr arddangosfa.

Mae’r swydd hon yn gyfle ichi ddatblygu eich portffolio gwaith proffesiynol a chymryd rhan mewn prosiect byw. Bydd cyfle ichi hyrwyddo eich gwaith yn un o sefydliadau diwylliannol mwyaf Abertawe. Bydd y prosiect hwn yn eich datblygu’n broffesiynol yn ogystal ag yn greadigol, oherwydd byddwch yn gweithio gyda briff creadigol ac ar y cyd ag ymarferwyr creadigol eraill.

Cyfrifoldebau: 

  • Gweithio’n agos gyda rheolwr y prosiect i drafod cysyniad creadigol y prosiect
  • Gweithio yn unol â’r cysyniad creadigol i sicrhau’r brandio iawn i’r arddangosfa, yn cynnwys logo, asedau ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, cyhoeddiad byr, teipograffeg, posteri ac unrhyw elfennau graffeg eraill yn ôl yr angen
  • Cynhyrchu’r canllawiau brandio
  • Darparu’r holl ddyluniadau mewn ffeiliau Photoshop, InDesign neu Illustrator (os bydd angen)
  • Sicrhau darluniau graffeg o ansawdd uchel
  • Cyflwyno delwedd yr arddangosfa i reolwr y prosiect ac eraill
  • Creu dyluniadau terfynol gyda’r ansawdd, maint a steil gofynnol yn barod ar gyfer yr arddangosfa
  • Cyfrannu at y deunyddiau marchnata
  • Cymryd rhan mewn cyfarfodydd a digwyddiadau sy’n ymwneud â’r prosiect

Sgiliau:

  • Creadigol, ac yn gallu creu darluniau dengar
  • Ar gael i weithio gyda briffiau creadigol
  • Dibynadwy, ac yn meddu ar sgiliau cyfathrebu da
  • Sgiliau trefniadol a rheoli amser rhagorol
  • Gallu gweithio i derfynau amser tynn

Sgiliau technegol: 

Gwybodaeth ddatblygedig o amrywiol feddalwedd graffeg yn cynnwys Adobe Creative Cloud

Os oes gennych ddiddordeb: 

Anfonwch eich portffolio a CV mewn ebost at [email protected]

Byddwn wedyn yn eich gwahodd i gyfweliad lle gallwch drafod eich gwaith mewn mwy o fanylder.