Obinna

Obinna Ogbonnia Otuu

Our Swansea , Our Stories
Obinna

Introduction and Background

My name is Obinna Ogbonnia Otuu. I’m originally from Afikpo, Ebonyi State, Nigeria, and am currently pursuing a second PhD in Computer Science at Swansea University, focusing on Human-Computer Interaction (HCI). My academic journey includes a previous PhD and master’s in Computer Science with an interest in Software Defined Network (SDN). I chose Swansea University due to its strong reputation in HCI and the opportunity to work with esteemed faculty like Matt Jones and Alan Dix. Swansea’s scenic location and welcoming community have made my experience here truly fulfilling

Challenges Encountered

When my family and I first arrived in Swansea in 2022, securing housing was a major challenge. Limited accommodation options led us to stay in a shared apartment, where I even slept on the floor until we found a suitable place. Seeing the housing struggles of fellow Nigerians inspired me to create the Igbo Community Swansea group, which connects community members with housing and essential resources. I also volunteer with Housing Justice Cymru, supporting others facing similar challenges

Achievements and Contributions

Through Housing Justice Cymru, I’ve helped address homelessness and housing issues in Swansea, assisting individuals with food distribution, service access, and community outreach. Academically, my research, focusing on marginalized communities, has led me to present at international conferences in places like New Zealand, the USA, and Australia. These accomplishments have allowed me to address social challenges in both Swansea and Nigeria, and represent the community on a global stage.

Engagement with the Local Community

Aside from my work with Housing Justice Cymru, I’m also the Chairman of the Igbo Community Board, where I support community members through personal crises, legal issues, and other needs, often acting as a first responder. My phone has become a community lifeline, available for housing and academic support, and I work closely with African community leaders like Prof Uzo Iwobi to address various needs.

Messages for the Community

To create positive change, it’s essential to challenge our own biases and promote understanding by engaging with people from diverse backgrounds. Education and open conversations about race, culture, and identity are powerful tools in achieving this.

Advice for Young People

I encourage young people to take pride in their unique backgrounds and voices. Don’t be afraid to speak up, even if it’s challenging. Your perspectives are valuable and bring diversity and richness to the community.

Future Projects

I run a Nigerian-based foundation, “New Breed of Ambassadors,” where we provide online coaching and education support, particularly to girls in need. We hope to expand our impact in the future.

Cyflwyniad a Chefndir

Fy enw i yw Obinna Ogbonnia Otuu. Rwy’n dod yn wreiddiol o Afikpo, Ebonyi State, Nigeria, ac ar hyn o bryd rwy’n dilyn ail PhD mewn Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Abertawe, gan ganolbwyntio ar Ryngweithio Dynol-Cyfrifiadurol (HCI). Mae fy siwrnai academaidd yn cynnwys PhD blaenorol a gradd meistr mewn Cyfrifiadureg gyda diddordeb mewn Rhwydweithio Diffiniedig gan Feddalwedd (SDN). Dewisais Brifysgol Abertawe oherwydd ei henw da cryf yn HCI a’r cyfle i weithio gyda darlithwyr uchel eu parch fel Matt Jones ac Alan Dix. Mae lleoliad golygfaol Abertawe a’r gymuned groesawgar wedi gwneud fy mhrofiad yma yn wirioneddol foddhaol.

Heriau a Wynebir fel Lleiafrif yn Abertawe

Pan gyrhaeddodd fy nheulu a minnau Abertawe am y tro cyntaf yn 2022, roedd sicrhau tŷ yn her fawr. Arweiniodd opsiynau llety cyfyngedig ni i aros mewn fflat a rennir, lle roeddwn i hyd yn oed yn cysgu ar y llawr nes i ni ddod o hyd i le addas. Roedd gweld brwydrau tai cyd-Nigeriaid wedi fy ysbrydoli i greu grŵp Cymunedol Igbo Abertawe, sy’n cysylltu aelodau’r gymuned â thai ac adnoddau hanfodol. Rwyf hefyd yn gwirfoddoli gyda Housing Justice Cymru, gan gefnogi eraill sy’n wynebu heriau tebyg.

Llwyddiannau a Chyfraniadau i Abertawe

Trwy Housing Justice Cymru rwyf wedi helpu i fynd i’r afael â digartrefedd a materion tai yn Abertawe, gan gynorthwyo unigolion gyda dosbarthu bwyd, mynediad at wasanaethau, ac allgymorth cymunedol. Yn academaidd, mae fy ymchwil, sy’n canolbwyntio ar gymunedau ymylol, wedi fy arwain i gyflwyno mewn cynadleddau rhyngwladol mewn lleoedd fel Seland Newydd, UDA ac Awstralia. Mae’r cyflawniadau hyn wedi fy ngalluogi i fynd i’r afael â heriau cymdeithasol yn Abertawe a Nigeria, a chynrychioli’r gymuned ar lwyfan byd-eang.

Ymgysylltu â'r Gymuned Leol

Ar wahân i fy ngwaith gyda Housing Justice Cymru, rwyf hefyd yn Gadeirydd Bwrdd Cymunedol Igbo, lle rwy’n cefnogi aelodau’r gymuned trwy argyfyngau personol, materion cyfreithiol ac anghenion eraill, gan weithredu’n aml fel ymatebwr cyntaf. Mae fy ffôn wedi dod yn achubiaeth gymunedol, sydd ar gael ar gyfer cymorth tai ac academaidd, ac rwy’n gweithio’n agos gydag arweinwyr cymunedol Affricanaidd fel yr Athro Uzo Iwobi i fynd i’r afael ag anghenion amrywiol.

Negeseuon i'r Gymuned ar Newid Agweddau Tuag at Amrywiaeth a Chynhwysiant

I greu newid cadarnhaol, mae’n hanfodol herio ein rhagfarnau ein hunain a hybu dealltwriaeth trwy ymgysylltu â phobl o gefndiroedd amrywiol. Mae addysg a sgyrsiau agored am hil, diwylliant a hunaniaeth yn arfau pwerus i gyflawni hyn.

Cyngor i Bobl Ifanc

Rwy’n annog pobl ifanc i ymfalchïo yn eu cefndiroedd a’u lleisiau unigryw. Peidiwch â bod ofn siarad, hyd yn oed os yw’n heriol. Mae eich safbwyntiau yn werthfawr ac yn dod ag amrywiaeth a chyfoeth i’r gymuned.

Prosiectau'r Dyfodol

Rwy’n rhedeg sefydliad yn Nigeria, “New Breed of Ambassadors,” lle rydyn ni’n darparu cefnogaeth hyfforddi ac addysg ar-lein, yn enwedig i ferched mewn angen. Gobeithiwn ehangu ein heffaith yn y dyfodol.