Hannah Sabatia

Introduction and Background
My name is Hannah Sabatia, came to Swansea in 2009 and have seen Swansea become and grow into the city of Sanctuary.
Challenges Encountered
Initially, as a single mum, alone with two boys was a challenge but as I got to know people in Swansea, things got a bit easier. I empathise with all the single mums I meet here without family to assist with kids. Generally, Swansea has been a friendly welcoming place, however, I have heard racism around me, one was directed at my own son and that is hard to work around, why can an adult direct racial slur at a child. I have supported many people to settle down in Swansea but sometimes it’s hard to see them leave Swansea to go find jobs elsewhere. I wish more jobs could be created to help people feel they can stay.
Achievements and Contributions
In 2010, I became involved with Swansea’s City of Sanctuary initiative, which provided me with valuable skills and connections to support refugees.
I completed a PGCE at the University of Wales Trinity St David’s in 2014, which enabled me to teach ESOL and continue supporting refugees.
I played a key role in increasing voluntary hosts for destitute asylum seekers in 2017/2018 and advocated with local authorities to prevent destitution.
During the COVID-19 pandemic, I coordinated the Welcome to Swansea project, finding innovative ways to support the most vulnerable remotely.
Recently, I’ve been sharing health messages with ethnic minorities and using my background in nutrition to promote inclusive health through initiatives like Swansea Community Flavours, which has evolved into Unified Flavours, an enterprise led by diverse women.
Engagement with the Local Community
I’ve created platforms like Chai&Chat to facilitate community engagement with healthcare professionals, and Swim&Cycle to address health risks in ethnic minorities. I also partner with organisations to support and showcase international women’s talents, such as through Swansea Community Flavours. This group’s success, including a cookbook and a small grant for branding, has led to the formation of Unified Flavours, a budding enterprise.
Messages for the Community
We should treat everyone with the respect and kindness we wish to receive. By fostering a culture of gratitude and friendliness, we create an inclusive environment. Small acts of kindness and a welcoming demeanour can significantly impact how we engage with one another and support diverse communities.
Advice for Young People
Youth is a time of great potential. Embrace it with persistence, consistency, and insistence (PCI) on your goals. This approach will lay a strong foundation for a successful and fulfilling future.
Cyflwyniad a Chefndir
Fy enw i yw Hannah Sabatia. Deuthum i Abertawe yn 2009 ac rwyf wedi gweld Abertawe’n dod ac yn tyfu’n ddinas Noddfa.
Heriau a Wynebir fel Lleiafrif yn Abertawe
I ddechrau, roedd bod yn fam sengl ar fy mhen fy hun gyda dau fachgen yn her, ond wrth i mi ddod i adnabod pobl yn Abertawe, aeth pethau ychydig yn haws. Rwy’n cydymdeimlo â’r holl famau sengl rwy’n cwrdd ag yma heb deulu i helpu gyda phlant. Yn gyffredinol, mae Abertawe wedi bod yn lle croesawgar cyfeillgar. Fodd bynnag, rwyf wedi clywed hiliaeth o’m cwmpas. Cyfeiriwyd un at fy mab fy hun, ac mae hynny’n beth anodd gweithio o’i gwmpas. Sut y gall oedolyn gyfeirio sarhad hiliol at blentyn? Rwyf wedi cefnogi llawer o bobl i ymgartrefu yn Abertawe ond weithiau mae’n anodd eu gweld yn gadael Abertawe i fynd i chwilio am swyddi yn rhywle arall. Hoffwn pe bai mwy o swyddi’n cael eu creu i helpu pobl i deimlo y gallant aros.
Cyfraniadau i Gymuned Abertawe
Yn 2010, dechreuais ymwneud â menter Dinas Noddfa Abertawe, a roddodd sgiliau a chysylltiadau gwerthfawr i mi gefnogi ffoaduriaid.
Cwblheais TAR ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn 2014, a alluogodd i mi ddysgu ESOL a pharhau i gefnogi ffoaduriaid.
Chwaraeais ran allweddol wrth gynyddu nifer y gwesteiwyr gwirfoddol ar gyfer ceiswyr lloches anghenus yn 2017/2018, a bûm yn dadlau gydag awdurdodau lleol i atal amddifadedd.
Yn ystod y pandemig COVID-19, bûm yn cydlynu’r prosiect Croeso i Abertawe, gan ddod o hyd i ffyrdd arloesol o gefnogi’r rhai mwyaf agored i niwed o bell.
Yn ddiweddar, rwyf wedi bod yn rhannu negeseuon iechyd gyda lleiafrifoedd ethnig ac yn defnyddio fy nghefndir mewn maeth i hybu iechyd cynhwysol trwy fentrau fel Swansea Community Flavours, sydd wedi datblygu i fod yn United Flavours, menter a arweinir gan fenywod amrywiol.
Ymgysylltu â'r Gymuned Leol
Rwyf wedi creu llwyfannau fel Chai&Chat i hwyluso ymgysylltiad cymunedol â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, a Swim&Cycle i fynd i’r afael â risgiau iechyd mewn lleiafrifoedd ethnig. Rwyf hefyd yn partneru â sefydliadau i gefnogi ac arddangos doniau menywod rhyngwladol, megis trwy Swansea Community Flavours. Mae llwyddiant y grŵp hwn, gan gynnwys llyfr coginio a grant bach ar gyfer brandio, wedi arwain at ffurfio Unified Flavours, menter newydd.
Negeseuon i'r Gymuned ar Newid Agweddau Tuag at Amrywiaeth a Chynhwysiant
Dylem drin pawb â’r parch a’r caredigrwydd y dymunwn eu derbyn. Trwy feithrin diwylliant o ddiolchgarwch a chyfeillgarwch, rydym yn creu amgylchedd cynhwysol. Gall gweithredoedd bach o garedigrwydd ac ymarweddiad croesawgar effeithio’n sylweddol ar y modd yr ydym yn ymgysylltu â’n gilydd ac yn cefnogi cymunedau amrywiol.
Cyngor i Bobl Ifanc
Mae ieuenctid yn gyfnod o botensial mawr. Cofleidiwch ef gyda ‘persistence, consistency and insistence’ (PCI) ar eich nodau. Bydd y dull hwn yn gosod sylfaen gref ar gyfer dyfodol llwyddiannus a boddhaus.